Judges 16:15 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a ddywedodd wrtho ef, Pa fodd y dywedi, Cu gennyf dydi, a'th galon heb fod gyda mi? Teirgwaith bellach y'm twyllaist, ac ni fynegaist i mi ym mha fan y mae dy fawr nerth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma Delila'n dweud wrtho, “Sut wyt ti'n gallu dweud ‘Dw i'n dy garu di,’ os wyt ti ddim yn trystio fi? Rwyt ti wedi bod yn chwarae triciau dair gwaith ac wedi gwrthod dweud wrtho i beth sy'n dy wneud di mor gryf.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddai hi wrtho, "Sut y medri di ddweud, 'Rwy'n dy garu', a thithau heb ymddiried ynof? Y tair gwaith hyn yr wyt wedi gwneud ffu373?l ohonof, a heb ddweud wrthyf yn iawn ymhle y mae dy nerth mawr."