Judges 16:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hi a wnaeth iddo gysgu ar ei gliniau; ac a alwodd ar ŵr, ac a barodd eillio saith gudyn ei ben ef: a hi a ddechreuodd ei gystuddio ef; a'i nerth a ymadawodd oddi wrtho.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Delila'n cael Samson i gysgu, a'i ben ar ei gliniau. Yna dyma hi'n galw dyn draw i dorri ei wallt i gyd i ffwrdd — y saith plethen. A dyna ddechrau'r cam-drin. Roedd ei gryfder i gyd wedi mynd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Suodd hi Samson i gysgu ar ei gliniau, ac yna galwodd am ddyn i eillio saith cudyn ei ben. Dechreuodd ei gystwyo, ac yr oedd ei nerth wedi cilio rhagddo.