Judges 16:2 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A mynegwyd i'r Gasiaid, gan ddywedyd, Daeth Samson yma. A hwy a gylchynasant, ac a gynllwynasant iddo, ar hyd y nos, ym mhorth y ddinas; ac a fuant ddistaw ar hyd y nos, gan ddywedyd, Y bore pan oleuo hi, ni a'i lladdwn ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Gasa yn darganfod ei fod yno. Felly dyma nhw'n amgylchynu'r dref ac yn disgwyl amdano wrth y giatiau. Wnaethon nhw ddim mwy drwy'r nos, gan feddwl, “Lladdwn ni e pan fydd hi'n goleuo yn y bore!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywodd pobl Gasa fod Samson yno, a daethant at ei gilydd a disgwyl amdano drwy'r nos wrth borth y dref heb wneud unrhyw symudiad, gan feddwl, "Pan ddaw'n olau ddydd, fe'i lladdwn."