Judges 16:23 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna arglwyddi'r Philistiaid a ymgasglasant i aberthu aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu: canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein llaw ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd arweinwyr y Philistiaid wedi dod at ei gilydd i ddathlu, a chyflwyno aberthau i'w duw, Dagon. Roedden nhw'n siantio, “Ein duw ni, Dagon — mae wedi rhoi Samson ein gelyn, yn ein gafael!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud: "Rhoddodd ein duw yn ein dwylo ein gelyn Samson."