Judges 16:25 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwch am Samson, i beri i ni chwerthin. A hwy a alwasant am Samson o'r carchardy, fel y chwaraeai o'u blaen hwynt; a hwy a'i gosodasant ef rhwng y colofnau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oedd y parti'n dechrau mynd yn wyllt dyma nhw'n gweiddi, “Dewch â Samson yma i ni gael ychydig o adloniant!” Felly dyma nhw'n galw am Samson o'r carchar, i roi sioe iddyn nhw. A dyma nhw'n ei osod i sefyll rhwng dau o'r pileri.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, "Galwch Samson i'n difyrru." Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau.