Judges 16:29 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y tŷ yn sefyll arnynt, ac a ymgynhaliodd wrthynt, un yn ei ddeheulaw, a'r llall yn ei law aswy.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Samson yn rhoi ei ddwylo ar y ddau biler oedd yn cynnal to'r deml, a gwthio, un gyda'r llaw dde a'r llall gyda'r chwith.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall.