Judges 16:31 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'i frodyr ef, a holl dŷ ei dad ef, a ddaethant i waered, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygasant i fyny, ac a'i claddasant ef rhwng Sora ac Estaol, ym meddrod Manoa ei dad. Ac efe a farnasai Israel ugain mlynedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth ei frodyr a'r teulu i gyd i lawr i Gasa i nôl ei gorff. A dyma nhw'n ei gladdu ym medd ei dad, oedd rhwng Sora ac Eshtaol. Roedd Samson wedi arwain pobl Israel am ugain mlynedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.