Judges 17:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrth ei fam, Y mil a'r can sicl arian a dducpwyd oddi arnat, ac y rhegaist amdanynt, ac y dywedaist hefyd lle y clywais; wele yr arian gyda mi, myfi a'i cymerais. A dywedodd ei fam, Bendigedig fyddych, fy mab, gan yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd wrth ei fam, “Gwnes i dy glywed di yn melltithio'r lleidr wnaeth ddwyn y mil a chant o ddarnau arian oddi arnat ti. Wel, mae'r arian gen i. Fi wnaeth ei ddwyn e, a dw i'n mynd i'w roi yn ôl i ti.” A dyma'i fam yn dweud wrtho, “Dw i'n gweddïo y bydd yr ARGLWYDD yn dy fendithio di, fy mab!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrth ei fam, "Ynglu375?n 'r un cant ar ddeg o ddarnau arian a ddygwyd oddi arnat, ac y clywais di'n cyhoeddi melltith arnynt dyma'r arian gennyf fi; myfi a'u cymerodd." Ac meddai ei fam, "Bendith yr ARGLWYDD fo ar fy mab!"