Judges 17:3 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan roddodd efe y mil a'r can sicl arian adref i'w fam, ei fam a ddywedodd, Gan gysegru y cysegraswn yr arian i'r ARGLWYDD o'm llaw, i'm mab, i wneuthur delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a'i rhoddaf eilwaith i ti.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daeth â'r arian yn ôl i'w fam, a dyma'i fam yn dweud, “Dw i am gysegru'r arian yma i'r ARGLWYDD. Er mwyn fy mab, dw i am ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel tawdd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Rhoddodd yr un cant ar ddeg o ddarnau arian yn l i'w fam; a dywedodd hithau, "Yr wyf am lwyr gysegru'r arian hwn i'r ARGLWYDD, a'i roi i'm mab i wneud cerfddelw a delw dawdd; felly dyma fi'n ei roi yn l iti."