Judges 17:9 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Mica a ddywedodd wrtho, O ba le y daethost ti? Dywedodd yntau wrtho, Lefiad ydwyf o Bethlehem Jwda; a myned yr ydwyf i drigo lle caffwyf le.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gofynnodd Micha iddo, “O ble ti'n dod?” Atebodd, “Un o lwyth Lefi ydw i, wedi bod yn byw yn Bethlehem yn Jwda. Ond dw i'n edrych am rywle arall i fyw.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gofynnodd Mica iddo, "O ble'r wyt ti'n dod?" Atebodd yntau, "Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le."