Judges 18:17 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pumwr, y rhai a aethent i chwilio'r wlad, a esgynasant, ac a aethant i mewn yno; ac a ddygasant ymaith y ddelw gerfiedig, a'r effod, a'r teraffim, a'r ddelw doddedig: a'r offeiriad oedd yn sefyll wrth ddrws y porth, gyda'r chwe channwr oedd wedi ymwregysu ag arfau rhyfel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd yr offeiriad yn sefyll yno gyda'r milwyr, dyma'r pum dyn oedd wedi bod yn ysbïo'r wlad yn torri i mewn i'w dŷ, a dwyn yr eilun wedi ei gerfio, yr effod, yr eilun-ddelwau teuluol a'r ddelw o fetel tawdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
tra aeth y pum dyn oedd wedi bod yn ysbo'r wlad i mewn i gymryd y gerfddelw, yr effod, y teraffim a'r ddelw dawdd. Safai'r offeiriad wrth y drws gyda'r chwe channwr arfog.