Judges 18:2 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Dan a anfonasant o'u tylwyth bump o wŷr o'u bro, gwŷr grymus, o Sora, ac o Estaol, i ysbïo'r wlad, ac i'w chwilio; ac a ddywedasant wrthynt, Ewch, chwiliwch y wlad. A phan ddaethant i fynydd Effraim i dŷ Mica, hwy a letyasant yno.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma lwyth Dan yn anfon pump o ddynion dewr i ysbïo'r wlad. Dyma nhw'n gadael Sora ac Eshtaol, a cyrraedd tŷ Micha ym mryniau Effraim, a dyna ble wnaethon nhw aros dros nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Anfonodd y Daniaid bump o ddynion teilwng ar ran y llwyth cyfan, i fynd o Sora ac Estaol i ysbo'r wlad a'i chwilio. Wedi iddynt dderbyn y gorchymyn i fynd i chwilio'r wlad, aethant cyn belled thu375? Mica ym mynydd-dir Effraim, a threulio'r nos yno.