Judges 18:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yntau a ddywedodd, Fy nuwiau, y rhai a wneuthum i, a ddygasoch chwi ymaith, a'r offeiriad, ac a aethoch i ffordd: a pheth sydd gennyf fi mwyach? a pha beth yw hyn a ddywedwch wrthyf, Beth a ddarfu i ti?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Micha'n ateb, “Dych chi wedi dwyn y duwiau dw i wedi eu gwneud, a'r offeiriad, a cherdded i ffwrdd! Beth sydd gen i ar ôl? Sut allwch chi ddweud, ‘Beth sy'n bod?’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Atebodd Mica, "Yr ydych wedi cymryd y duwiau a wneuthum, ac wedi mynd 'm hoffeiriad; a beth arall sydd gennyf? Sut felly y gallwch ofyn imi, 'Beth sy'n bod arnat?'"