Judges 18:28 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid oedd waredydd; canys pell oedd hi oddi wrth Sidon, ac nid oedd negesau rhyngddynt a neb; hefyd yr oedd hi yn y dyffryn oedd wrth Beth‐rehob: a hwy a adeiladasant ddinas, ac a drigasant ynddi.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Doedd neb yn gallu dod i'w helpu nhw. Roedden nhw'n rhy bell o Sidon i'r gorllewin, a doedd ganddyn nhw ddim cysylltiad hefo unrhyw un arall. Roedd y dref mewn dyffryn oedd ddim yn bell o Beth-rechof. Dyma lwyth Dan yn ailadeiladu'r dref, a symud i fyw yno.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oedd neb i'w harbed, oherwydd yr oedd yn rhy bell o Sidon, ac nid oedd ganddynt gysylltiad neb. Yr oedd y dref mewn dyffryn yn perthyn i Beth-rehob, ac ailgododd y Daniaid y dref a byw ynddi,