Judges 19:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a droesant yno, i fyned i mewn i letya i Gibea. Ac efe a ddaeth i mewn, ac a eisteddodd yn heol y ddinas: canys nid oedd neb a'u cymerai hwynt i'w dŷ i letya.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n penderfynu aros dros nos yno. Dyma nhw'n mynd i mewn i'r dref, ac eistedd i lawr i orffwys ar y sgwâr. Ond wnaeth neb eu gwahodd nhw i'w tŷ i aros dros nos.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troesant i mewn yno i dreulio'r nos yn Gibea; ond er iddynt fynd ac eistedd ar sgwr y dref, nid oedd neb am eu cymryd i mewn i letya.