Judges 19:24 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele fy merch, yr hon sydd forwyn, a'i ordderch yntau; dygaf hwynt allan yn awr, a darostyngwch hwynt, a gwnewch iddynt yr hyn fyddo da yn eich golwg: ond i'r gŵr hwn na wnewch mor ysgeler.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae gen i ferch sy'n wyryf, ac mae partner y dyn yma. Gwna i eu hanfon nhw allan. Gewch chi wneud beth leiciwch chi iddyn nhw. Ond peidiwch meddwl gwneud rhywbeth mor warthus i'r dyn yma!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma fy merch i, sy'n wyryf, a'i ordderch ef; dof hwy allan i chwi eu treisio, neu wneud fel y mynnoch iddynt, ond peidiwch gwneud y fath anlladrwydd gyda'r dyn."