Judges 19:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond ni wrandawai y gwŷr arno: am hynny y gŵr a ymaflodd yn ei ordderch, ac a'i dug hi allan atynt hwy. A hwy a'i hadnabuant hi, ac a wnaethant gam â hi yr holl nos hyd y bore: a phan gyfododd y wawr, hwy a'i gollyngasant hi ymaith.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond roedd y dynion yn gwrthod gwrando arno. Felly dyma'r dyn o lwyth Lefi yn gafael yn ei bartner ac yn ei gwthio hi allan atyn nhw. A buon nhw'n ei threisio hi a'i cham-drin hi drwy'r nos. Roedd hi bron yn gwawrio cyn iddyn nhw ei gollwng hi'n rhydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond ni fynnai'r dynion wrando arno. Felly cydiodd y dyn yn ei ordderch a'i gwthio allan atynt, a buont yn ei threisio a'i cham-drin drwy'r nos, hyd y bore, ac yna gadael iddi fynd ar doriad y wawr.