Judges 19:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gyfododd yn fore y pumed dydd i fyned ymaith. A thad y llances a ddywedodd, Cysura dy galon, atolwg. A hwy a drigasant hyd brynhawn, ac a fwytasant ill dau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna'n gynnar y bore wedyn, y pumed diwrnod, dyma'r dyn yn codi eto i fynd. Ond dyma dad y ferch yn dweud wrtho eto, “Rhaid i ti gael rhywbeth i dy gadw di i fynd! Pam wnei di ddim gadael ar ôl cinio?” Felly dyma'r ddau yn bwyta gyda'i gilydd eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A phan gododd i gychwyn fore'r pumed diwrnod, dywedodd tad yr eneth, "Atgyfnertha dy hun."