Judges 19:9 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan gyfododd y gŵr i fyned ymaith, efe a'i ordderch, a'i lanc; ei chwegrwn, tad y llances, a ddywedodd wrtho, Wele, yn awr, y dydd a laesodd i hwyrhau; arhoswch dros nos, atolwg: wele yr haul yn machludo; trig yma, fel y llawenycho dy galon: a chodwch yn fore yfory i'ch taith, fel yr elych i'th babell.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rywbryd yn y p'nawn, dyma'r dyn yn codi i fynd gyda'i bartner a'i was. Ond dyma tad y ferch, yn dweud, “Gwranda, mae'n rhy hwyr yn y dydd. Aros un noson arall! Mae hi wedi mynd yn rhy hwyr i ti fynd bellach. Aros un noson arall i fwynhau dy hun. Wedyn cei godi'n gynnar bore fory a cychwyn ar dy daith am adre.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A buont yn hamddena hyd hwyr y dydd ac yn bwyta gyda'i gilydd. Yna, pan oedd y dyn a'i ordderch a'i lanc yn paratoi i gychwyn, dywedodd tad yr eneth wrtho, "Edrych, y mae'n hwyrhau, arhoswch heno; mae'r dydd ar ddarfod. Os arhosi yma heno a'th fwynhau dy hun, fe gewch godi'n gynnar yfory i'ch taith, a mynd adref."