Judges 2:10 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r holl oes honno hefyd a gasglwyd at eu tadau: a chyfododd oes arall ar eu hôl hwynt, y rhai nid adwaenent yr ARGLWYDD, na'i weithredoedd a wnaethai efe er Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd y genhedlaeth yna i gyd wedi mynd. Doedd y genhedlaeth ddaeth ar eu holau ddim wedi cael profiad personol o'r ARGLWYDD nac wedi gweld drostyn nhw eu hunain beth wnaeth e dros Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.