Judges 2:14 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A llidiodd dicllonedd yr ARGLWYDD yn erbyn Israel; ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a'u hanrheithiasant hwy; ac efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgylch, fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fe'n gadael i ladron ddwyn oddi arnyn nhw. Roedd y gelynion o'u cwmpas nhw yn gallu gwneud beth fynnen nhw! Doedden nhw'n gallu gwneud dim i'w rhwystro.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion.