Judges 2:19 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fyddai farw y barnwr, hwy a ddychwelent, ac a ymlygrent yn fwy na'u tadau, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt, ac i ymgrymu iddynt: ni pheidiasant â'u gweithredoedd eu hunain, nac â'u ffordd wrthnysig.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
ond ar ôl i'r arweinydd farw, byddai'r genhedlaeth nesaf yn ymddwyn yn waeth na'r un o'i blaen. Bydden nhw'n mynd yn ôl i addoli duwiau eraill ac yn gweddïo arnyn nhw. Roedden nhw'n ystyfnig, ac yn gwrthod stopio gwneud drwg.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn l yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar l duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig.