Judges 20:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ni a gymerwn ddengwr o'r cant trwy holl lwythau Israel, a chant o'r mil, a mil o'r deng mil, i ddwyn lluniaeth i'r bobl; i wneuthur, pan ddelont i Gibea Benjamin, yn ôl yr holl ffieidd‐dra a wnaethant hwy yn Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd degfed ran o ddynion pob llwyth yn gyfrifol am nôl bwyd i'r milwyr. Pan fydd y fyddin yn cyrraedd Gibea byddan nhw'n eu cosbi nhw am wneud peth mor erchyll yn Israel.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a dewiswn ddeg dyn o bob cant, cant o bob mil, a mil o bob myrddiwn trwy holl lwythau Israel, i gasglu lluniaeth i'r fyddin fydd yn mynd yn erbyn Gibea Benjamin o achos yr holl anlladrwydd a wnaethant yn Israel."