Judges 20:13 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn awr rhoddwch y gwŷr, meibion Belial, y rhai sydd yn Gibea, fel y lladdom hwynt, ac y dileom ddrygioni o Israel. Ond ni wrandawai meibion Benjamin ar lais eu brodyr meibion Israel:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Anfonwch y rapsgaliwns yn Gibea sydd wedi gwneud hyn aton ni i gael eu dienyddio. Rhaid cael gwared â'r drwg yma o Israel.” Ond doedd pobl llwyth Benjamin ddim yn fodlon cydweithredu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ildiwch y dihirod hyn sydd yn Gibea, inni eu rhoi i farwolaeth, a dileu'r drwg o Israel." Ond ni fynnai'r Benjaminiaid wrando ar eu perthnasau yr Israeliaid.