Judges 20:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a gyfodasant, ac a aethant i fyny i dŷ DDUW, ac a ymgyngorasant â DUW, ac a ddywedasant, Pwy ohonom ni a â i fyny yn gyntaf i'r gad yn erbyn meibion Benjamin? A dywedodd yr ARGLWYDD, Jwda a â yn gyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cyn y frwydr roedden nhw wedi bod yn Bethel i ofyn i Dduw, “Pwy sydd i arwain y frwydr yn erbyn llwyth Benjamin?” A dyma'r ARGLWYDD yn ateb, “Llwyth Jwda sydd i arwain.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Aeth yr Israeliaid yn eu blaen i Fethel, a gofyn i Dduw, "Pwy ohonom sydd i arwain yn y frwydr yn erbyn y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Jwda sydd i arwain."