Judges 20:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(A meibion Israel a aethent i fyny, ac a wylasent gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr: ymgyngorasent hefyd â'r ARGLWYDD, gan ddywedyd, A af fi drachefn i ryfel yn erbyn meibion Benjamin fy mrawd? A dywedasai yr ARGLWYDD, Dos i fyny yn ei erbyn ef.)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi mynd yn ôl i Bethel, ac wedi bod yn crïo o flaen yr ARGLWYDD nes iddi nosi. Roedden nhw wedi gofyn i'r ARGLWYDD, “Ddylen ni fynd allan eto i ymladd yn erbyn ein brodyr o lwyth Benjamin, neu ddim?” Ac roedd yr ARGLWYDD wedi ateb, “Ewch i ymosod arnyn nhw!”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
aeth yr Israeliaid i fyny i Fethel ac wylo gerbron yr ARGLWYDD hyd yr hwyr, a gofyn i'r ARGLWYDD, "A awn ni eto i ymladd 'n brodyr y Benjaminiaid?" Atebodd yr ARGLWYDD, "Ewch!"