Judges 20:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Benjamin a aeth allan o Gibea i'w herbyn hwythau yr ail ddydd; a hwy a ddifethasant o feibion Israel eilwaith dair mil ar bymtheg o wŷr hyd lawr: y rhai hyn oll oedd yn tynnu cleddyf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dyma filwyr Benjamin yn dod allan o Gibea unwaith eto, a lladd un deg wyth mil arall o filwyr Israel.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y Benjaminiaid gyrch arnynt eilwaith o Gibea, a'r tro hwn gadael deunaw mil o blith byddin Israel yn farw ar y maes, a'r rheini bob un yn dwyn cleddyf.