Judges 20:26 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna holl feibion Israel a'r holl bobl a aethant i fyny ac a ddaethant i dŷ DDUW, ac a wylasant, ac a arosasant yno gerbron yr ARGLWYDD, ac a ymprydiasant y dwthwn hwnnw hyd yr hwyr, ac a offrymasant boethoffrymau ac offrymau hedd gerbron yr ARGLWYDD.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma fyddin Israel i gyd yn mynd yn ôl i Bethel. Buon nhw'n eistedd yno'n crïo o flaen yr ARGLWYDD, a wnaethon nhw ddim bwyta o gwbl nes roedd hi wedi nosi. Dyma nhw hefyd yn cyflwyno aberthau i'w llosgi ac offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly fe aeth yr Israeliaid i gyd, a'r holl fyddin, i fyny i Fethel, ac wylo ac eistedd yno gerbron yr ARGLWYDD gan ymprydio drwy'r dydd hyd yr hwyr, ac offrymu poethoffrymau a heddoffrymau gerbron yr ARGLWYDD.