Judges 20:31 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Benjamin a aethant allan yn erbyn y bobl; a thynnwyd hwynt oddi wrth y ddinas: a hwy a ddechreuasant daro rhai o'r bobl yn archolledig, fel cynt, yn y priffyrdd, o'r rhai y mae y naill yn myned i fyny i dŷ DDUW, a'r llall i Gibea yn y maes, ynghylch dengwr ar hugain o Israel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fyddin Benjamin yn dod allan i ymladd eto, gan adael y dref heb ei hamddiffyn. Dyma nhw'n dechrau taro byddin Israel, fel o'r blaen. Cafodd tua tri deg o filwyr Israel eu lladd yng nghefn gwlad ac ar y ffyrdd (sef y ffordd sy'n mynd i Bethel, a'r un sy'n mynd i Gibea).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y Benjamin-iaid gyrch yn erbyn y fyddin, a denwyd hwy oddi wrth y dref; dechreusant wneud lladdfa ymysg y fyddin fel cynt, ac archolli tua deg ar hugain o'r Israeliaid yn y tir agored ger y priffyrdd i Fethel ac i Gibea.