Judges 20:32 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Benjamin a ddywedasant, Cwympwyd hwynt o'n blaen ni, fel ar y cyntaf. Ond meibion Israel a ddywedasant, Ffown, fel y tynnom hwynt oddi wrth y ddinas i'r priffyrdd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd byddin Benjamin yn meddwl eu bod nhw'n eu curo nhw fel o'r blaen. Ond tacteg Israel oedd ffoi o'u blaenau nhw er mwyn eu harwain nhw i ffwrdd o dref Gibea i'r priffyrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y Benjaminiaid yn dweud, "Yr ydym yn eu trechu fel o'r blaen"; a'r Israeliaid yn dweud, "Fe giliwn er mwyn eu denu o'r dref i'r priffyrdd."