Judges 20:33 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A holl wŷr Israel a gyfodasant o'u lle, ac a fyddinasant yn Baal‐tamar: a'r sawl a oedd o Israel yn cynllwyn, a ddaeth allan o'u mangre, sef o weirgloddiau Gibea.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Tra roedd byddin Israel i gyd yn mynd i Baal-tamar i ailgasglu at ei gilydd, dyma'r milwyr oedd yn cuddio i'r gorllewin o Gibea yn dod allan
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna safodd yr Israeliaid a ffurfio'u rhengoedd ger Baal-tamar, a dyma'r Israeliaid oedd wedi ymguddio yn rhuthro o'u cuddfeydd i'r gorllewin o Gibea.