Judges 20:38 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr oedd amser nodedig rhwng gwŷr Israel a'r cynllwynwyr; sef peri ohonynt i fflam fawr a mwg ddyrchafu o'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedden nhw wedi trefnu i roi arwydd i weddill y fyddin eu bod nhw wedi llwyddo. Bydden nhw'n cynnau tân a gwneud i golofn o fwg godi o'r dref.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr arwydd i fyddin Israel oddi wrth y rhai ynghudd fyddai colofn o fwg yn mynd i fyny o'r dref;