Judges 20:39 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan drodd gwŷr Israel eu cefnau yn y rhyfel, Benjamin a ddechreuodd daro yn archolledig o wŷr Israel ynghylch dengwr ar hugain: canys dywedasant, Diau gan daro eu taro hwynt o'n blaen ni, fel yn y cyntaf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna pryd fyddai byddin Israel yn troi a dechrau gwrthymosod. Roedd milwyr Benjamin eisoes wedi lladd rhyw dri deg o filwyr Israel ac yn meddwl eu bod nhw'n ennill y frwydr fel o'r blaen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yna byddai byddin Israel yn troi yn y frwydr. Ar y dechrau yr oedd y Benjaminiaid wedi anafu tua deg ar hugain o fyddin Israel, a meddwl yn sicr eu bod yn eu concro fel yn y frwydr flaenorol.