Judges 20:42 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny hwy a droesant o flaen gwŷr Israel, tua ffordd yr anialwch; a'r gad a'u goddiweddodd hwynt: a'r rhai a ddaethai o'r dinasoedd, yr oeddynt yn eu difetha yn eu canol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n ffoi o flaen byddin Israel, ar hyd y ffordd i'r anialwch. Ond roedden nhw'n methu dianc. Roedd milwyr Israel yn eu taro nhw o bob cyfeiriad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Troesant i ffwrdd o flaen byddin Israel i gyfeiriad yr anialwch, ond parhaodd yr ymladd; ac yr oedd yr Israeliaid, a oedd wedi dod i'r dref, bellach yn eu mysg yn eu difa.