Judges 21:12 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a gawsant ymhlith trigolion Jabes Gilead, bedwar cant o lancesau yn wyryfon, y rhai nid adnabuasent ŵr trwy gydorwedd â gŵr: a dygasant hwynt i'r gwersyll i Seilo, yr hon sydd yng ngwlad Canaan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn Jabesh yn Gilead dyma nhw'n dod o hyd i bedwar cant o ferched ifanc oedd yn wyryfon — merched oedd erioed wedi cael rhyw gyda dyn. A dyma nhw'n mynd â nhw yn ôl i'r gwersyll yn Seilo yn Canaan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cawsant ymhlith Jabes-gilead bedwar cant o wyryfon nad oeddent wedi gorwedd gyda dyn; a daethant hwy i'r gwersyll i Seilo yng ngwlad Canaan.