Judges 21:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r Benjaminiaid a ddychwelasant yr amser hwnnw; a hwy a roddasant iddynt hwy y gwragedd a gadwasent yn fyw o wragedd Jabes Gilead: ond ni chawsant hwy ddigon felly.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma ddynion Benjamin yn dod yn ôl, a dyma bobl Israel yn rhoi'r merched o Jabesh yn Gilead oedd wedi eu harbed iddyn nhw. Ond doedd dim digon o ferched iddyn nhw i gyd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna, wedi iddynt ddychwelyd, rhoesant iddynt y merched o Jabes-gilead yr oeddent wedi eu harbed. Eto nid oedd hynny'n ddigon ar eu cyfer.