Judges 21:22 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddelo eu tadau neu eu brodyr hwynt i achwyn atom ni, yna y dywedwn wrthynt, Byddwch dda iddynt er ein mwyn ni; oblegid na chadwasom i bob un ei wraig yn y rhyfel: o achos na roddasoch chwi hwynt iddynt y pryd hwn, ni byddwch chwi euog.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fydd tadau a brodyr y merched yn dod aton ni i gwyno byddwn ni'n dweud wrthyn nhw, ‘Plîs gadwch lonydd iddyn nhw. Wnaethon ni ddim llwyddo i gael gwraig i bob un ohonyn nhw drwy ymosod ar Jabesh yn Gilead. A wnaethoch chi ddim rhoi eich merched yn wirfoddol iddyn nhw, felly dych chi ddim yn euog o dorri'ch llw.’”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os daw eu hynafiaid neu eu brodyr atom i achwyn, fe ddywedwn wrthynt, 'Byddwch yn rasol wrthynt, oherwydd ni chawsom wragedd iddynt trwy ryfel; ac nid chwi sydd wedi eu rhoi hwy iddynt, felly rydych chwi'n ddieuog.'"