Judges 21:23 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Benjamin a wnaethant felly; a chymerasant wragedd yn ôl eu rhifedi, o'r rhai a gipiasent, ac a oeddynt yn dawnsio: a hwy a aethant ymaith, a dychwelasant i'w hetifeddiaeth, ac a adgyweiriasant y dinasoedd, ac a drigasant ynddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyna wnaeth dynion Benjamin. Dyma nhw'n cipio dau gant o'r merched oedd yn dawnsio, a'u cymryd nhw'n wragedd iddyn nhw eu hunain. Wedyn dyma nhw'n mynd yn ôl adre i'w tiroedd eu hunain, ailadeiladu'r trefi, a setlo i lawr unwaith eto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth y Benjaminiaid hyn, ac wedi i bob un gael gwraig o blith y dawnswyr yr oeddent wedi eu cipio, aethant yn l i'w tiriogaeth ac ailadeiladu'r trefi a byw ynddynt.