Judges 21:5 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A meibion Israel a ddywedasant, Pwy o holl lwythau Israel ni ddaeth i fyny gyda'r gynulleidfa at yr ARGLWYDD? canys llw mawr oedd yn erbyn yr hwn ni ddelsai i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa, gan ddywedyd, Rhoddir ef i farwolaeth yn ddiau.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa? Roedden ni wedi addo ar lw y byddai'n rhaid i unrhyw un wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD gael ei ladd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr Israeliaid, "Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?" Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na ddi i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth.