Judges 21:8 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Dywedasant hefyd, Pa un o lwythau Israel ni ddaeth i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa? Ac wele, ni ddaethai neb o Jabes Gilead i'r gwersyll, at y gynulleidfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly dyma nhw'n gofyn, “Oes yna bobl o lwythau Israel wnaeth ddim dod i gyfarfod yr ARGLWYDD yn Mitspa?” A dyma nhw'n darganfod fod neb o Jabesh yn Gilead wedi dod i'r cyfarfod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac meddent, "Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?" Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.