Judges 3:10 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ysbryd yr ARGLWYDD a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a'r ARGLWYDD a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a'i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma Ysbryd yr ARGLWYDD yn dod arno, a dyma fe'n arwain Israel i frwydro yn erbyn Cwshan-rishathaim. A dyma Othniel yn ennill y frwydr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.