Judges 3:15 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yna meibion Israel a lefasant ar yr ARGLWYDD: a'r ARGLWYDD a gododd achubwr iddynt; sef Ehwd mab Gera, fab Jemini, gŵr llawchwith: a meibion Israel a anfonasant anrheg gydag ef i Eglon brenin Moab.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel yn gweiddi ar yr ARGLWYDD am help, a dyma fe'n codi rhywun i'w hachub nhw. Ei enw oedd Ehwd, mab Gera o lwyth Benjamin. Roedd yn ddyn llaw chwith. Roedd Ehwd i fod i fynd â trethi pobl Israel i Eglon, brenin Moab.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd ef achubwr iddynt, sef Ehud fab Gera, Benjaminiad a dyn llawchwith; ac anfonodd yr Israeliaid gydag ef deyrnged i Eglon brenin Moab.