Judges 3:20 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac Ehwd a ddaeth i mewn ato ef: ac yntau oedd yn eistedd mewn ystafell haf, yr hon oedd iddo ef ei hunan. A dywedodd Ehwd, Gair oddi wrth DDUW sydd gennyf atat ti. Ac efe a gyfododd oddi ar ei orseddfa.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly roedd yn eistedd ar ei ben ei hun yn yr ystafell uchaf — ystafell agored braf. Dyma Ehwd yn mynd draw ato, a dweud, “Mae gen i neges i chi gan Dduw!” Pan gododd y brenin ar ei draed,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, "Gair gan Dduw sydd gennyf iti." Cododd yntau oddi ar ei sedd.