Judges 3:25 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a ddisgwyliasant, nes cywilyddio ohonynt: ac wele, nid oedd efe yn agori drysau yr ystafell. Yna hwy a gymerasant agoriad, ac a agorasant: ac wele eu harglwydd hwy wedi cwympo i lawr yn farw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ar ôl aros ac aros am amser hir, dyma nhw'n dechrau teimlo'n anesmwyth am ei fod e'n dal heb agor y drysau. Felly dyma nhw'n nôl allwedd ac agor y drysau. A dyna lle roedd eu meistr, yn gorwedd yn farw ar lawr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wedi iddynt ddisgwyl nes bod cywilydd arnynt, ac yntau heb agor drysau'r ystafell, cymerasant allwedd a'u hagor, a dyna lle'r oedd eu meistr wedi syrthio i'r llawr yn farw.