Judges 3:27 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan ddaeth, efe a utganodd mewn utgorn ym mynydd Effraim: a meibion Israel a ddisgynasant gydag ef o'r mynydd, ac yntau o'u blaen hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan gyrhaeddodd Seira dyma fe'n chwythu'r corn hwrdd ar fryniau Effraim, i alw byddin at ei gilydd. A dyma ddynion Effraim yn mynd yn ôl i lawr gydag e o'r bryniau. Ehwd oedd yn eu harwain.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan gyrhaeddodd, fe ganodd yr utgorn ym mynydd-dir Effraim, a daeth yr Israeliaid i lawr gydag ef o'r mynydd-dir, ac yntau'n eu harwain.