Judges 3:28 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthynt, Canlynwch fi: canys yr ARGLWYDD a roddodd eich gelynion chwi, sef Moab, yn eich llaw chwi. A hwy a aethant i waered ar ei ôl ef, ac a enillasant rydau yr Iorddonen tua Moab, ac ni adawsant i neb fyned drwodd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Dewch!” meddai, “Mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi buddugoliaeth i chi yn erbyn eich gelynion, y Moabiaid!” Felly aethon nhw ar ei ôl i lawr i ddyffryn Iorddonen, a dal y rhydau lle mae pobl yn croesi drosodd i Moab. Doedden nhw ddim yn gadael i unrhyw un groesi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dywedodd wrthynt, "Dilynwch fi, oherwydd y mae'r ARGLWYDD wedi rhoi eich gelyn Moab yn eich llaw." Aethant hwythau ar ei l a dal rhydau'r Iorddonen yn erbyn Moab, a rhwystro pawb rhag croesi.