Judges 3:29 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a drawsant o'r Moabiaid y pryd hwnnw ynghylch deng mil o wŷr, pawb yn rymus, a phawb yn wŷr nerthol; ac ni ddihangodd neb.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Y diwrnod hwnnw roedden nhw wedi lladd tua deg mil o filwyr gorau Moab — dynion cryfion i gyd. Wnaeth dim un ohonyn nhw ddianc.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Lladdasant y pryd hwnnw tua deng mil o'r Moabiaid, pob un yn heini a grymus; ni ddihangodd neb.