Judges 3:7 — Compare Translations
3 translations compared side by side
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac a anghofiasant yr ARGLWYDD eu DUW, ac a wasanaethasant Baalim, a'r llwyni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma bobl Israel yn gwneud rhywbeth roedd yr ARGLWYDD yn ei ystyried yn wirioneddol ddrwg. Dyma nhw'n anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli delwau o Baal a pholion y dduwies Ashera.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, ac anghofio'r ARGLWYDD eu Duw ac addoli'r duwiau Baal ac Asera.