Judges 4:14 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Debora a ddywedodd wrth Barac, Cyfod; canys hwn yw y dydd y rhoddodd yr ARGLWYDD Sisera yn dy law di: onid aeth yr ARGLWYDD allan o'th flaen di? Felly Barac a ddisgynnodd o fynydd Tabor, a deng mil o wŷr ar ei ôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma Debora yn dweud wrth Barac, “I ffwrdd a ti! Heddiw mae'r ARGLWYDD yn mynd i roi Sisera yn dy ddwylo di! Mae'r ARGLWYDD ei hun wedi mynd o dy flaen di!” Felly dyma Barac yn mynd yn syth ac arwain ei fyddin o ddeg mil i lawr llethrau Mynydd Tabor.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd Debora wrth Barac, "Dos! Oherwydd dyma'r dydd y bydd yr ARGLWYDD yn rhoi Sisera yn dy law. Onid yw'r ARGLWYDD wedi mynd o'th flaen?" Aeth Barac i lawr o Fynydd Tabor gyda deng mil o wu375?r ar ei l.