Judges 4:18 — Compare Translations

3 translations compared side by side

Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A Jael a aeth i gyfarfod â Sisera; ac a ddywedodd wrtho, Tro i mewn, fy arglwydd, tro i mewn ataf fi; nac ofna. Yna efe a drodd ati i'r babell, a hi a'i gorchuddiodd ef â gwrthban.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Aeth Jael allan i'w groesawu a dweud wrtho, “Tyrd yma, syr. Tyrd i orffwys yma gyda mi. Paid bod ag ofn!” Felly dyma Sisera yn mynd i mewn i'r babell a dyma Jael yn rhoi blanced drosto.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth Jael allan i gyfarfod Sisera a dywedodd wrtho, "Tro i mewn, f'arglwydd, tro i mewn ataf, paid ag ofni." Felly troes i mewn ati i'r babell, a thaenodd hithau gwrlid drosto.